Cyryglau ar yr afon Taf

Home » News and notices » Cyryglau ar yr afon Taf

31 May 2016

Read this article in English

Fel y gwydd rhai ohonoch, ym mis Mai 2013 defnyddiwyd Karl Chattington gan Glwb Criced Morgannwg fel atynfa i ddenu rhagor o gefnogwyr i wylio chwaraewyr megis Chris Gayle, o India’r Gorllewin, yn nghystadleuaeth gemau Tlws Pencampwyr a oedd ar fin dechrau.  Roedd Gayle yn adnabyddus o fwrw’r bel o’r maes i’r afon a gwelwyd karl yn maesu yn yr afon!

Hyd y gwyddwn Karl oedd y person cyntaf mewn cwrwgl ar y Taf ers dros ganrif.  Ceir y cyfeiriad cyntaf o gyryglau ar yr afon o lun adnabyddus Julius Caesar Ibbetson (1759 – 1817) a elwid yn Caerdydd o’r Gorllewin.  Yn y llun gwelwn un cwrwgl ar yr afon a dwy arall ar y lan.  Mae’r cyryglau yn debyg i wneaethuriaeth yr afon Teifi ond gyda’r rhwyf yn nodweddiadol o deip hirach yr afon Tywi.  Gellid gweld y llun bellach yn Oriel Aberdeen.

Gan symud ymlaen i tua 1825 cawn gyfrif o James Lucas yn boddi tra’n pysgota am eog gyda rhwyd ar yr afon ger Gwesty’r Royal heddiw.  Rhaid cofio bod llif yr afon yn dra wahanol heddiw i’r un y cyfnod yno.  I goffáu y digwyddiad cawn heddiw cerflun pren o gwrwgl yn agos i’r afon ym Mharc Biwt.

Cawn drychineb arall ar ddiwedd 1908 pan foddwyd bachgen ifanc o’r enw Cromwell Davies ym Mynwent y Crynwyr ger Merthyr Tydful.  Roedd cyryglwyr Caerfyrddin wedi teithio lan i gynorthwyo y boblogaeth leol i ddargangod y corff a hyn a waned tair wythnos yn ddiweddarach.

Ar wahân i ymddangosiad Karl ar yr afon felly nid oedd cyryglau wedi ymddangos ar yr afon Taf ers cryn amser.  Newidiwyd hyn ar brynhawn dydd Mercher gwlyb yng nghanol mis Mai 2016.  Fel rhan o Brosiect Taf Byw gan Paul Barrett a Chris Powell penderfynwyd ailgyflwyno’r cwrwgl ar yr afon.  I ddathlu’r achlysur pwysig hwn teithiodd cwmni teledu Cwmni Da o Gaernarfon i lawr o’r Gogledd i ffilmio.  Roedd Paul a Chris wedi bod yn brysur am fisoedd yn adeiladu cwrwgl o deip Tywi ac roeddynt yn edrych ymlaen i’r lansiad agoriadaol!  Doedd yr un ohonynt wedi bod mewn cwrwgl o’r blaen ac felly rhoddwyd y cyfrifoldeb a’r fraint i mi fod yn gyntaf ynddi!

Penderfynwyd y lle gorau i lansio Bonesig oedd o ben isaf Parc Biwt ger y Bws Dŵr 90 sedd.  Falch o gofnodi aeth fordaith cyntaf Bonesig ymlaen heb unrhyw anffawd a rhaid i Paul a Chris cael eu canmol am adeiladu’r cwrwgl mor gelfydd.  Adeiladwyd Bonesig ym Myd y Cychod draw yn Mae Caerdydd a rhoddwyd cyngor a arweiniad iddynt gan Karl Chattington ac Andy Keward sy’n adeiladu’r Sgwner Elena.  Roedd yn deimlad hyfryd, erys y glaw trwm, i ail gyflwyno’r cwrwgl yn ôl ar yr afon Taf.  Clod mawr i Meinir Gwilym, cyflwynwraig Cwmni Da, am fod mor barod i fynd ar yr afon gyda mi.  Ychydig iawn o hanes y gwrwgl oedd ganddi cyn mentro lawr i Gaerdydd ac wrth gwrs, erioed wedi bod mewn un o’r blaen!  Wedi cwpl o wersi cyflym roedd wedi meistrioli’r grefft yn ddigonol i alluogi iddi fynd ar y dŵr a dod yn ôl yn sych!  Gyda llaw roedd ei chwrwgl hi wedi ei wneud yn Ironbridge ac wedi ei rhoddi i Paul fel rhodd.

Roedd yn ddiwrnod da i bawb er nad oedd y tywydd wedi bod o’n plaid.  Falch o ddweud nid oedd neb wedi syrthio i fewn.  Rwy’n mawr gobeithio bydd Paul a Chris yn parhau i ddenu ymwelwyr i fae Caerdydd ac wedi gwersi yn Sain Ffagan byddant yn cael rhwyfo eu cwrwgl eu hunain ar yr afon rhyw ddydd.  Roedd yn fraint fod y cyntaf i lansio Bonesig ar ei mordaith cyntaf a thro nesaf mae Paul a Chris yn gobeithio gweld mwy o gyryglau ar yr afon.  Eu bwriad yw cynal rasus cyryglau ar yr afon a byddaf yn sicr yn gadael chi wybod pryd fydd hynny.